Llongyfarchiadau
... i dîm merched Blwyddyn 7 am ennill twrnament pel-rwyd Ysgolion cyfrwng Cymraeg De Cymru yn ddiweddar.  Buddgoliaeth campus yn erbyn Ysgol Cwm Rhymni yn y rownd derfynol.  Da iawn i dîm B yr ysgol am ddod yn drydydd yn y gystadleuaeth plât hefyd.

Ffair Wyddoniaeth 2012
Cynhaliwyd Ffair Wyddoniaeth ysgubol eto eleni gyda chyfraniadau deniadol
gan dros 160 o ddisgyblion! Llongyfarchiadau yn arbennig i Mahaila Hassan,
Megan Holland, Myfi Thomas, Ffibi Devitt-Jones, Harrison Morse, Henry
Burns, Catrin Lord, Manon Jenkins, Tirion James-Austin, ac i Gwyn Robins,
Liam Coyle a Joe Wiggin am y cyflwyniad buddugol ar Rocedi!

Marathon Llundain
Ymdrech arddechog a dewr gan dri o fechgyn Blwyddyn 13 ar lwyddo i gwblhau marathon Llundain yn ddiweddar gan godi arian tuag at elusennau.  Y tri gwr dewr oedd Ellis Annett, Jams Powys a Gareth Jones.



Llwyddiant!

Llongyfarchiadau i dîm pêl-droed Blwyddyn 7 am ennill Cwpan Ysgolion Caerdydd gan guro Ysgol Llanishen 5-2 yn y rownd derfynol ar ddydd Mercher.  Buddugoliaeth ardderchog wrth ystyried bod Llanishen wedicyrraedd y Chwarteri yng Nhwpan Pêl-Droed Cymru eleni.

Blwyddyn anghygoel o lwyddiant, felly, i Flwyddyn 7 ar y meysydd chwaraeon.  Y bechgyn yn  bencampwyr Cwpanau Rygbi a Pheldroed Caerdydd, a merched pel-rwyd Blwyddyn 7 yn bencampwyr Ysgolion Cymraeg De Cymru.Llongyfarchiadau.

 

Learn to play poker How To Play Poker and the best poker site is party poker
Hawlfraint 2011 Ysgol Plasmawr