Croeso

Braint ac anrhydedd yw bod yn Bennaeth ar Ysgol Plasmawr.  Mae arwain yr ysgol i mewn i’w ail ddegawd yn her gyffrous yr ydym oll sy’n rhan o gymuned yr ysgol yn edrych ymlaen at ei hwynebu ac rwy’n argyhoeddedig y bydd yn gyfnod llwyddiannus a llewyrchus yn hanes yr Ysgol.

Mae yna dystiolaeth gadarn bod yr ysgol yn cynnig hinsawdd dysgu gadarnhaol a chefnogol sydd yn galluogi disgyblion i flasu amrywiaeth o brofiadau dysgu ac i lwyddo yn ei gwaith.  Mae’r broses hunan-arfarnu blynyddol yn cadarnhau bod i’r ysgol gryfderau aruthrol mewn sawl maes gyda’r hinsawdd disgybl-ganolog gryf sy’n treiddio trwy bob agwedd o fywyd ysgol yn sail i’r cyfan.

Gallwn ymfalchïo yn ein llwyddiannau chwaraeon ac yn ein perfformiadau drama a cherddorol a gallwn ymhyfrydu yn ein cyrhaeddiad academaidd ond yn fy marn i, y cwestiwn pwysica’ oll yw, a ydym fel ysgol yn cynnig yr ethos cywir sy’n caniatáu disgyblion o ba bynnag gefndir cymdeithasol-economaidd ac o ba bynnag ‘allu academaidd i gael eu cynnwys yn y llu o weithgareddau a phrofiadau dysgu ehangach a gynigir gan yr ysgol?
Rwy’n medru dweud gydag arddeliad a balchder mai ‘ydym’ yw’r ateb i’r cwestiwn hwnnw.

John Hayes

Pennaeth

Learn to play poker How To Play Poker and the best poker site is party poker
Hawlfraint 2011 Ysgol Plasmawr